Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Medi 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


88(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

1. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch effaith y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp ar y sector dur yng Nghymru?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r gwersi a ddysgwyd yn sgil y sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am benderfyniad y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio â gwneud Avastin, cyffur canser a allai ymestyn bywydau, ar gael fel mater o drefn yn y GIG yng Nghymru?

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

4. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Yn sgil digwyddiadau yng Nghatalonia, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU fel rhan o drafodaethau Brexit yr UE a'r DU, ynghylch hawliau is-wladwriaethol llywodraethau i weithredu'n annibynnol heb fod llywodraeth y wladwriaeth yn cyfyngu arnynt?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol

(60 munud)

NDM6502 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio meddygol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2017.

</AI5>

<AI6>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

NDM6505 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol', sy'n ceisio diddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i gleifion yng Nghymru.

3. Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a

b) gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.

Dogfen Ymgynghori Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' ac ychwanegu 'sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru'.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

NDM6506 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot.

2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch garchar arfaethedig;

b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; ac

c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai mawr.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a diweddaru'r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o leoedd modern i garcharorion a disodli'r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau newydd, addas i'r diben.

2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi'r safle arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar newydd yn ne Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda thrigolion a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot.

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o'r safleoedd amgen, gan gyhoeddi'r rhestr arfaethedig.

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod Pleidleisio</AI8>

<AI9>

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM6501 Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Medi 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>